É«»¨ÌÃ

Tynnu coes? Gwyddonwyr yn cwestiynu a ydyn ni’n etifeddu sgiliau dweud jôcs

Dr Gil Greengross

Dr Gil Greengross

01 Gorffennaf 2025

Mae gwyddonwyr yn dechrau cwestiynu a yw pobl yn etifeddu’r gallu i ddweud jôc ddoniol, yn ôl ymchwil newydd.  

Yn yr astudiaeth gyntaf erioed i edrych ar ddylanwad genynnau a'r amgylchedd ar sgiliau doniolwch, cymharodd gwyddonwyr dros fil o efeilliaid trwy ofyn iddynt raddio eu hiwmor eu hunain a chreu capsiynau doniol ar gyfer cartwnau. 

Datgelodd y canfyddiadau newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn 'Twin Research and Human Genetics', fod y sgoriau a roddodd pobl i'w hiwmor eu hunain wedi'u dylanwadu gan ffactorau etifeddol ac amgylcheddol. 

Fodd bynnag, pan gafodd eu capsiynau eu barnu'n annibynnol, nid oedd unrhyw dystiolaeth eu bod wedi etifeddu eu doniau doniol. Yn lle hynny, cafodd yr holl wahaniaethau unigol eu llunio gan eu hamgylchedd, er na ellid diystyru effaith genetig fach. 

Mae'r canlyniadau'n awgrymu y gallai'r rhesymau pam eich bod chi'n ddoniol neu nad yw eich jôc yn taro deuddeg fod yn fwy cymhleth ac yn anoddach i'w hasesu na galluoedd gwybyddol eraill. 

Gallai hefyd helpu i esbonio prinder deuawdau comedi o'r un teulu - fel y Brodyr Chuckle neu’r Brodyr Marx - o'i gymharu ag actorion, cerddorion neu awduron. 

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol É«»¨ÌÃ: 

“Er gwaethaf pwysigrwydd hiwmor, ychydig iawn a wyddon ni am sut rydyn ni’n datblygu ein synnwyr digrifwch neu pam y gall un brawd neu chwaer fod yn ddoniol ac un arall ddim yn ddoniol. Mae canfyddiad ein hastudiaeth nad yw'r doniau hyn yn cael eu hetifeddu yn syndod, gan ei fod yn gwrth-ddweud y rhan fwyaf o ymchwil ar etifeddiaeth galluoedd gwybyddol fel creadigrwydd a sgiliau mathemategol. Felly, mae'n wirioneddol ddiddorol. Ond, gan mai dyma'r astudiaeth gyntaf o'i bath, dylid dehongli'r canlyniadau hyn yn ofalus. 

“Gall dweud jôc ymddangos yn syml ond mae meddu ar synnwyr digrifwch da yn nodwedd gymhleth ac unigryw sy'n cael ei dylanwadu gan nifer o briodoleddau seicolegol a nodweddion personoliaeth. Mae'n amrywio ar draws gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, fel wrth fynd ar ddêt neu ddifyrru. Gall hyn egluro pam, ar wahân i'r Brodyr Chuckle a Marx, nad oes llawer o ddigrifwyr llwyddiannus o'r un teulu agos. 

“Yr hyn sy'n gyffrous am yr ymchwil hwn yw ei fod yn codi'r cwestiwn: os nad yw ein synnwyr digrifwch yn cael ei drosglwyddo o'n rhieni ond yn hytrach yn dod o'n hamgylchedd, beth yn union sy'n ein gwneud ni'n ddoniol?” 

Mae gan y canfyddiadau hefyd oblygiadau ar gyfer sut mae gwyddonwyr yn meddwl am rôl hiwmor mewn esblygiad a hyd yn oed o ran canlyn. 

Ychwanegodd Dr Greengross: 

“Mae’r canfyddiadau cynnar hyn hefyd yn herio’r sail esblygiadol sy’n cael ei derbyn yn eang ar gyfer hiwmor. Gall synnwyr digrifwch gwych helpu i leddfu tensiwn mewn sefyllfaoedd peryglus, meithrin cydweithrediad, chwalu rhwystrau rhyngbersonol, a denu partneriaid—sydd i gyd yn gwella goroesiad ac atgenhedlu.  

“Mae agweddau canlyn a chyplu diddorol i hyn hefyd. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod menywod yn blaenoriaethu doniau doniol mewn partner yn fwy na dynion, tra bod dynion yn gwerthfawrogi gallu menywod i werthfawrogi eu digrifwch. Mae dynion yn profi pwysau dethol cryfach i fod yn ddoniol er mwyn creu argraff ar fenywod, gan arwain at ddynion yn meddu ar allu hiwmor ychydig yn uwch, ar gyfartaledd—canfyddiad sy’n cael ei gefnogi gan ein hastudiaeth. Ar ben hynny, roedd dynion yn graddio eu hunain yn fwy doniol na menywod, sy’n debygol o adlewyrchu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hiwmor wrth ddewis partner benywaidd.”

Mae’r tîm ymchwil bellach yn cynnal astudiaethau pellach i brofi’r canfyddiadau gyda gwahanol grwpiau sampl o efeilliaid.