Academydd yn helpu i olrhain pengwiniaid sy’n mynd ar goll wrth iddynt deithio adref

Pengwiniaid magellan - Llun gan falco o Pixabay
16 Gorffennaf 2025
Mae prosiect adsefydlu pengwiniaid ym Mrasil yn olrhain siwrneiau pengwiniaid wrth iddynt deithio adref, gyda chymorth academydd o Brifysgol 色花堂.
Bob blwyddyn o fis Mai ymlaen, mae pengwiniaid yn nofio o Batagonia yn ne'r Ariannin i arfordir deheuol Brasil i chwilio am fwyd a dyfroedd cynhesach.
Mae rhai o'r anifeiliaid yn mynd ar goll wrth chwilio am fwyd ac yn mynd yn sownd ar y traeth. Yna, maen nhw'n mynd yn llwglyd ac yn oer, gan nad ydyn nhw'n gallu diddosi eu plu na bwydo pan maent allan o’r d诺r.
Mae R3 Animal Association, sefydliad anllywodraethol o Dde America, yn achub ac yn adsefydlu pengwiniaid o amgylch dinas Florianópolis yn ne Brasil, gan eu rhyddhau yn ôl i'r gwyllt ar ôl iddynt wella.
Mae Dr Guilherme Bortolotto, arbenigwr mewn olrhain anifeiliaid môr ym Mhrifysgol 色花堂, wedi bod yn gweithio gyda'r sefydliad i dagio pengwiniaid sydd wedi'u hadsefydlu cyn iddynt gael eu rhyddhau, fel bod modd eu monitro a'u holrhain wrth iddynt ddychwelyd i'w cytrefi ym Mhatagonia.
Dywedodd Dr Bortolotto, Darlithydd Ecoleg Forol yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol 色花堂:
"Mae'n fraint cael gweithio gyda'r tîm adsefydlu ym Mrasil a chwarae rhan wrth helpu i ddiogelu’r anifeiliaid morol anhygoel hyn. Mae achub ac adsefydlu pengwiniaid sy’n mynd yn sownd ar y traeth yn broses heriol – gan amlaf mae'n amhosibl gwybod a yw'r anifeiliaid yn dychwelyd i'w bywydau arferol yn llwyddiannus ai peidio. Trwy osod trosglwyddydd lloeren bach ar y pengwiniaid ychydig cyn iddynt gael eu rhyddhau yn ôl i'r cefnfor, gallwn gael gwybodaeth werthfawr am eu lleoliadau ac i ba gyfeiriad y maent yn teithio. Mae hyn yn caniatáu i ni weld, er enghraifft, a yw'r anifeiliaid yn stopio i fwyta mewn mannau penodol yn y môr a hefyd, gobeithio, a ydyn nhw'n dychwelyd yr holl ffordd yn ôl i'w cytref gartref ym Mhatagonia.
"Mae gallu olrhain y pengwiniaid sydd wedi’u hadsefydlu yn bwysig er mwyn deall i ba raddau y mae ymdrechion y sefydliad adsefydlu wedi bod yn llwyddiannus. Mae hefyd yn eu cynorthwyo i reoli eu hadnoddau yn well trwy ddweud wrthynt pa weithdrefnau adsefydlu yw'r rhai mwyaf effeithiol."
Ychwanegodd Cristiane Kolesnikovas, llywydd R3 Animal:
"Mae'r rhan fwyaf o'r pengwiniaid sy'n ymddangos ar ein traethau yn rhai ifanc sy’n mudo am y tro cyntaf ac maent yn cyrraedd yn flinedig a heb gael digon o faeth gan eu bod wedi teithio mor bell. Mae llawer yn mynd ar goll o'r haid. Mae hefyd yn beth cyffredin eu gweld ag anafiadau oherwydd y rhwystrau maen nhw'n dod ar eu traws ar eu taith, fel dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill, rhwydi pysgota, sbwriel morol a gweithredoedd dynol eraill."
Mae'r Ganolfan Ymchwil, Adsefydlu a Datbetroleiddio Anifeiliaid Môr (CePRAM/R3 Animal), lle mae'r pengwiniaid yn cael eu hadsefydlu, wedi’i lleoli ym Mharc Talaith Rio Vermelho, uned gadwraeth o dan gyfrifoldeb y Sefydliad Amgylcheddol mewn partneriaeth â Heddlu Milwrol Amgylcheddol Brasil. Mae'r gwaith yn cael ei wneud trwy Brosiect Monitro Traeth ym Masn Santos (Projeto de Monitoramento de Praias da Bacia de Santos, PMP-BS), sy'n ofyniad trwyddedu amgylcheddol ffederal ar Petrobras.